|
Title |
|
Wardeiniaid Cynorthwyol Tymhorol - Sir Benfro / Assistant Warden Seasonal |
|
Reference |
|
(Please mention Stopdodo/Environment Jobs in your application) |
Sectors |
|
Terrestrial / Aquatic Ecology & Conservation
|
Location |
|
Wales (West) - UK
|
Salary |
|
£9.62 yr awr, llawn-amser, dros dro, Tachwedd 2020 - Mawrth 2021 |
Type |
|
Temporary / Contract / Seasonal |
Status |
|
Full Time |
Level |
|
First Level |
Deadline |
|
11/10/2020 |
Company Name |
|
Pembrokeshire Coast National Park |
Contact Name |
|
|
Website |
|
Further Details / Applications |
|
|
Description |
|
Mae Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn ymfalchïo yn y cyfoeth o lefydd gwych sydd yn ardal y Parc i’w harchwilio a’u mwynhau. Mae’r arfordir trawiadol yn cynnig traethau aur diogel sy'n ddelfrydol i deuluoedd, cannoedd o filltiroedd o lwybrau troed, yn ogystal â chlogwyni garw a childraethau creigiog diarffordd.
Fel rhan o'n rhaglen ar gyfer gaeaf 2020/21, rydym yn awr yn recriwtio Wardeiniaid Cynorthwyol Tymhorol i weithio yn yr awyr agored yn y Parc Cenedlaethol fel rhan o dîm bach, yn helpu i gynnal Llwybr Arfordir Sir Benfro a'r rhwydwaith ehangach o lwybrau, yn ogystal â chynnal yr amrywiol safleoedd sy’n eiddo i’r Awdurdod Parc Cenedlaethol ac a reolir gan yr Awdurdod.
Dyletswyddau a Chyfrifoldebau; • Mae'r gwaith yn bennaf yn golygu cynnal a chadw’r celfi sydd ar hawliau tramwy ar Lwybr yr Arfordir a’r rhwydwaith o lwybrau mewndirol, gan gynnwys gatiau, grisiau, arwyddion ac arwynebau llwybrau yn ôl y gofyn. • Cynnal a gwasanaethu offer a pheiriannau a ddefnyddir yn ystod eich gwaith bob dydd. • Torri llystyfiant drwy ddefnyddio amrywiaeth o beiriannau, gan gynnwys troedffustiau, peiriant torri prysgwydd a pheiriant tocio gwrychoedd.
Bydd ymgeiswyr delfrydol; • Â phrofiad mewn tasgau rheoli cefn gwlad a chadwraeth ymarferol, gan gynnwys codi a gosod arwyddion, dodrefn mynediad megis gatiau, sticlau, ffensys, cloddiau ac ati. • Yn gallu gwneud gwaith sylfaenol o wasanaethu ac atgyweirio offer a chyfarpar (yn ddefnyddiol ond nid yn hanfodol). • Yn meddu ar dystysgrifau ar gyfer defnyddio peiriannau torri prysgwydd, peiriannau torri porfa a pheiriannau perthnasol eraill (yn ddefnyddiol ond nid yn hanfodol) ac yn yr un modd NVQ lefel 2 neu’r cyfatebol mewn cadwraeth neu reolaeth cefn gwlad. • Yn meddu ar drwydded yrru lawn. Mae'r gallu i dynnu ôl-gerbydau yn ddymunol ond nid yn hanfodol. Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol ond nid yn hanfodol.
Mae dwy swydd ar gael i weithio yn yr ardaloedd canlynol; • Ardal y Gogledd - yn atebol i Gilrhedyn, a’r gwaith yn cwmpasu Bryniau'r Preseli a'r arfordir o Abergwaun i Landudoch.
• Ardal y De - yn atebol i Milton, a’r gwaith yn cwmpasu'r Daugleddau, Angle, Dinbych-y-pysgod i Amroth.
Darperir yr holl offer, gwisg swyddogol, esgidiau ac offer amddiffynnol. Dyddiad Cau: 11 Hydref 2020
APPLY HERE
|
<< Back
|