<< Back

This job listing is no longer active.
Please use our Environment Jobs Search to find current vacancies.

Title  

Wales Officer / Swyddog Cymru

Reference     (Please mention Stopdodo/Environment Jobs in your application)
Sectors   Terrestrial / Aquatic Ecology & Conservation
Location   Wales (North) - UK, Wales (East) - UK, Wales (West) - UK, Wales (South) - UK, Wales (Central) - UK
Salary   £27,600 pro-rata for 4 days per week (£34,500 FTE) and a 4% pension contribution
Type   Fixed Term and Permanent Roles
Status   Full Time
Level   Mid Level
Deadline   21/04/2024
Company Name   Botanical Society of Britain and Ireland (BSBI)
Contact Name  
Website   Further Details / Applications
Also Listing:
Description  

Swyddog Cymru

  • £34,500 y flwyddyn pro-rata a chyfraniad pensiwn o 4%
  • 4 diwrnod yr wythnos (0.8% CALl, 30 awr yr wythnos) gyda'r posibilrwydd o gynnydd i 5 diwrnod yr wythnos, yn dibynnu ar gyllid.
  • Contract tymor penodol hyd at fis Mawrth 2026 gyda'r posibilrwydd o estyniad pe bai cyllid yn cael ei sicrhau
  • Sectorau: Cadwraeth a bywyd gwyllt, ecoleg
  • Lleoliad: Cymru
  • Dim CVs nac asiantaethau os gwelwch yn dda

Allech chi arwain ar gyflawni ein prosiect Planhigion Blaenoriaeth mewn SoDdGAoedd yng Nghymru? Mae’r prosiect hwn yn cael ei gyllido gan y Rhaglen Rhwydweithiau Natur. Mae’n cael ei gyflwyno gan y Gronfa Dreftadaeth, ar ran Llywodraeth Cymru.

Am y sefydliad

Cymdeithas Fotanegol Prydain ac Iwerddon (BSBI) yw’r prif sefydliad elusennol sy’n hyrwyddo mwynhad, astudiaeth a chadwraeth planhigion gwyllt ym Mhrydain ac Iwerddon. Ein nod ni yw creu cymuned amrywiol o fotanegwyr medrus a brwdfrydig, darparu data a gwyddoniaeth i helpu i fynd i'r afael â cholli bioamrywiaeth a newid yn yr hinsawdd a dosbarthu gwybodaeth i ysgogi angerdd dros blanhigion. Er mwyn gwneud hyn rydym yn darparu cyfleoedd i bawb gymryd rhan drwy amrywiaeth o brosiectau cyfranogiad, arolygon, digwyddiadau dan do ac awyr agored, cyfleoedd hyfforddi a chynhyrchu llyfrau ac adnoddau eraill. Mae ein Cronfa Ddata Dosbarthiad (DDb) yn cynnwys mwy na 50 miliwn o gofnodion am blanhigion, sy’n ei gwneud yn un o gronfeydd data cofnodi biolegol mwyaf y byd ac, ym mis Mawrth 2023, fe wnaethom gyhoeddi’r trydydd Atlas Planhigion, gan fapio newidiadau yn nosbarthiad fflora Prydain ac Iwerddon. Mae ein Strategaeth sefydliadol ddiweddaraf yn disgrifio ein cynlluniau ar gyfer y dyfodol.

Am y rôl

Mae cyfle cyffrous wedi codi i ddod yn Swyddog Cymru BSBI yn arwain ar y prosiect Planhigion Blaenoriaeth mewn SoDdGAoedd sy’n cael ei gyllido gan y Rhaglen Rhwydweithiau Natur sy’n weithredol tan fis Mawrth 2026.

Bydd y rôl hon yn cynnwys gweithio gyda chofnodwyr botanegol gwirfoddol i arolygu ac asesu nodweddion arbennig planhigion unigol mewn SoDdGAoedd yng Nghymru er mwyn gwella tystiolaeth o’u cyflwr a phenderfynu ar eu rheolaeth yn y dyfodol. Bydd y rhain yn cael eu harolygu gan ddefnyddio dull arolygu Prosiect Planhigion Dan Fygythiad (TPP) BSBI i gynhyrchu cofnodion manwl o boblogaethau, gan gynnwys cofnodion o ddim planhigion. Bydd hyn yn cynnwys cynllunio arolygon, hyfforddi cofnodwyr botanegol gwirfoddol ym methodoleg yr arolwg, trefnu digwyddiadau hyfforddi / cofnodi, a chydlynu, cefnogi a chynnal arolygon.

Bydd deiliad y swydd yn creu cymuned amrywiol o fotanegwyr yng Nghymru i gynnal a datblygu'r sylfaen sgiliau; cynyddu cyfranogiad mewn arolygon strwythuredig, cofnodi a llif data, a sbarduno angerdd dros blanhigion. Gan weithio fel aelod o’n tîm bychan a chyfeillgar o staff sy’n gweithredu o bell ledled Prydain ac Iwerddon, byddai deiliad y swydd yn gweithio gartref rywle yng Nghymru.

Rydym yn chwilio am ecolegydd sydd â sgiliau pobl, cyfathrebu a rheoli prosiectau cadarn ynghyd â phrofiad ym maes botaneg, cofnodi biolegol a darparu hyfforddiant. Bydd yr ymgeisydd sy’n cael ei ddewis yn cael y cyfle i weithio gyda chymuned anhygoel o fotanegwyr yng Nghymru a’u cefnogi, gan wneud gwahaniaeth cadarnhaol i’n planhigion gwyllt.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y swydd hon, cysylltwch â james.harding-morris@bsbi.org

Sut i wneud cais

Darllenwch y disgrifiad swydd a manyleb y person yn ofalus ynghyd â'r nodiadau cyfarwyddyd ar gyfer gwneud cais am y swydd. Wedyn cwblhewch y ffurflen gais am swydd a'r ffurflen manylion personol a chyflwyno’r rhain i recruitment@bsbi.org

Rhaid derbyn y ceisiadau erbyn hanner nos ar 21ain Ebrill

Cynhelir y cyfweliadau ar-lein ar 29ain Ebrill

Yn ddelfrydol, byddai disgwyl i ddeiliad y swydd ddechrau yn y swydd ar ddechrau mis Mehefin

Mae’n nod gan BSBI i gynnal egwyddorion cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl weithgarwch, gan gynnwys recriwtio a chyflogi staff. Croesewir ceisiadau gan bawb sydd â chymwysterau neu brofiad addas, dim ots beth yw eu sefyllfa neu gefndir. Rydym yn croesawu’n arbennig ymgeiswyr o blith y rhai sy’n cael eu tangynrychioli yn ein sector ni ar hyn o bryd, fel pobl anabl ac unigolion o gymunedau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y rôl neu os oes angen unrhyw addasiadau i’r broses recriwtio, cysylltwch â recruitment@bsbi.org


Wales Officer

  • £27,600 pro-rata for 4 days per week (£34,500 FTE) and a 4% pension contribution
  • 4 days per week (0.8% FTE, 30 hours per week) with the possibility of growth to 5 days a week, depending on funding.
  • Fixed term contract to March 2026 with the possibility of extension if funding secured
  • Sectors: Conservation and wildlife, ecology
  • Location: Wales
  • No CVs or agencies please

Could you lead on the delivery of our Priority Plants on SSSIs project in Wales? This project is funded by the Nature Networks Programme. It is being delivered by the Heritage Fund, on behalf of the Welsh Government.

About the organisation

The Botanical Society of Britain and Ireland (BSBI) is the leading charitable organisation promoting the enjoyment, study and conservation of wild plants in Britain and Ireland. We aim to build a diverse community of skilled and enthused botanists, provide data and science to help address biodiversity loss and climate change and disseminate information to drive a passion for plants. To do this we provide opportunities for involvement for all through a range of participation projects, surveys, indoor and outdoor events, training opportunities and the production of books and other resources. Our Distribution Database (DDb) holds over 50 million plant records, making it one of the world’s largest biological recording databases and in March 2023 we published the third Plant Atlas, mapping changes in the distribution of British and Irish flora. Our latest organisational Strategy describes our future plans.

About the role

An exciting opportunity has arisen to become BSBI’s Wales Officer leading on the Nature Networks Programme funded Priority Plants on SSSIs project which runs until March 2026.

This role will involve working with volunteer botanical recorders to survey and assess individual plant special features on SSSIs in Wales in order to improve evidence of their condition and determine future management. These will be surveyed using BSBI’s Threatened Plant Project (TPP) survey method to produce detailed records of populations, including null records. This will include planning of surveys, training volunteer botanical recorders in the survey methodology, organising training/recording events, and the coordination, support and undertaking of surveys.

The post holder will build a diverse community of botanists in Wales to sustain and develop the skill base; increase participation in structured surveys, recording and data flow, and drive a passion for plants. Working within our small, friendly staff team who operate remotely across Britain and Ireland, the post holder would be home-based somewhere in Wales.

We are looking for an ecologist with strong people, communication, and project management skills along with experience in field botany, biological recording and training delivery. The chosen candidate will have the opportunity to work with and support an amazing community of botanists in Wales and make a positive difference for our wild plants.

If you have any questions about this role please contact james.harding-morris@bsbi.org

How to apply

Read the job description and person specification carefully along with the job application guidance notes. Then complete the job application form and personal details form and submit these to recruitment@bsbi.org

Applications must be received by midnight 21st April

Interviews will be held online on 29th April

The postholder would be expected ideally to take up the position at the start of June 

BSBI aims to uphold the principles of equality and diversity in all its activity, including the recruitment and employment of staff. Applications are welcome from all suitably qualified or experienced people, regardless of situation or background. We particularly welcome applicants from those who are currently underrepresented in our sector, such as disabled people and individuals from Black, Asian and Minority Ethnic communities. Should you have any questions about the role or require any adjustments to the recruitment process, please get in touch through recruitment@bsbi.org.


 

<< Back