<< Back

This job listing is no longer active.
Please use our Environment Jobs Search to find current vacancies.

Title  

Public Affairs Specialist - Wales

Reference     (Please mention Stopdodo/Environment Jobs in your application)
Sectors   Sustainability, Climate, CSR, EMS
Location   Wales (South) - UK
Type   Fixed Term and Permanent Roles
Status   Full Time
Level   Mid Level
Deadline   16/12/2020
Company Name   WWF-UK
Contact Name  
Website   Further Details / Applications
Also Listing:
Description  

Os oes gennych brofiad mewn arwain a chyflawni ymgyrch neu strategaeth wleidyddol yng Nghymru, dyma gyfle gwych i ddefnyddio’ch sgiliau i achub ein planed. Yn ddiweddar rydym wedi sicrhau cyllid prosiect i ymchwilio i ddefnydd tir, newid hinsawdd a chynhyrchu bwyd yn y Deyrnas Unedig trwy’r Quadrature Climate Foundation. Mae hyn yn cynnwys gweithio yng nghyd-destun deddfwriaethol Cymru i ddylanwadu ar bolisïau, ymchwilio i’r naratif cyhoeddus a deall ein cefnogwyr. Mae arnom angen eich arbenigedd ym maes materion cyhoeddus yn awr, i helpu i gyflawni amcanion gwleidyddol y prosiect cyffrous hwn yng Nghymru.

 

Fel Arbenigwr ar Faterion Cyhoeddus byddwch yn datblygu ein strategaeth, yn arwain y gwaith materion cyhoeddus ac yn adrodd yn erbyn y targedau cyflawnadwy allweddol. Bydd hyn yn golygu creu rhwydwaith newydd o ddylanwadwyr gwleidyddol, a fydd yn adlewyrchu cyfansoddiad gwleidyddol Senedd 2021-26, ac a fydd yn codi llais dros ein blaenoriaethau ac yn cynorthwyo â’r gwaith o gyflawni’r prosiect yn ogystal â chreu briffiau gwleidyddol, blogiau a chynnwys cymdeithasol diddorol, a rhoi cyngor ar ddatblygu strategaeth eiriolaeth a chyflawni hefyd. Chi hefyd fydd ein cynrychiolydd mewn digwyddiadau allweddol a chyfarfodydd gyda rhanddeiliaid gwleidyddol lefel uchel ac yn goruchwylio’r gwaith o adrodd ar brosiectau. Bydd yn bwysig gallu defnyddio cyfres o dactegau creadigol sy’n ennyn diddordeb i gynorthwyo ag amcanion cyffredinol yng Nghymru.

 

A chithau’n arbenigwr ar arwain a chyflawni ymgyrchoedd a strategaethau gwleidyddol llwyddiannus, rhaid ichi feddu ar wybodaeth fanwl am y Senedd a’r dirwedd wleidyddol yng Nghymru. Byddwch wedi arfer â drafftio cyfathrebiadau gwleidyddol ac yn effeithiol am fapio a chreu rhwydweithiau a pherthnasoedd cadarn gyda rhanddeiliaid gwleidyddol dylanwadol hefyd. Byddwch hefyd yn gyfforddus wrth gydgysylltu rhanddeiliaid allanol ac adnoddau mewnol er mwyn sicrhau canlyniadau. Byddwch yn llwyddiannus wrth reoli prosiectau a bydd gennych sgiliau cyfathrebu, dylanwadu a chydgysylltu hefyd.

 

Os ydych chi’n teimlo’n angerddol ynghylch achub ein planed ac yn gallu dylanwadu ar wneud penderfyniadau gwleidyddol lefel uchel yng Nghymru, hoffem glywed gennych chi. Ewch i’n gwefan gan ddefnyddio’r ddolen a llenwch y cofrestriad ar-lein ac anfonwch gopi o’ch CV cyfredol gyda llythyr eglurhaol yn esbonio pam mae gennych ddiddordeb yn y swydd hon a pham rydych chi’n addas ar ei chyfer.

Dyddiad cau: 16 Rhagfyr 2020

 

Yn WWF-UK rydyn ni wedi ymrwymo i greu amgylchedd gwaith cynhwysol, lle caiff amrywiaeth ei gwerthfawrogi a lle mae yna gyfle cyfartal. Felly rydyn ni’n croesawu ceisiadau o bob rhan o’r gymuned ac rydyn ni’n cynnig amrywiaeth o fuddion i hybu cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith.

 

Mae ar ein byd eich angen chi mwy nag erioed o’r blaen. Ni yw’r genhedlaeth gyntaf sy’n gwybod ein bod ni’n dinistrio’r byd ac mae’n bosibl mai ni yw’r genhedlaeth olaf a all wneud unrhyw beth yn ei gylch. Rydyn ni’n chwilio am bobl sy’n teimlo’n angerddol ynghylch ei gwneud yn annerbyniol yn wleidyddol, yn gymdeithasol ac yn economaidd dinistrio adnoddau naturiol ein planed. Mae arnom angen ichi ymuno yn y frwydr dros ein byd.

 

If you are experienced in leading and delivering a political strategy or campaign in Wales this is a tremendous opportunity to use your skills to save our planet. We have recently secured project funding to explore land use, climate change and food production in the UK through the Quadrature Climate Foundation. This includes working in Welsh legislative context to influence policy, explore the public narrative and understand our supporters. We now need your public affairs expertise to help deliver the political objectives for this exciting project in Wales.

 

As Public Affairs Specialist you will develop our strategy, lead the delivery of public affairs and report against key deliverables. This will involve building a new network of political influencers, reflective of the political composition of the 2021-26 Senedd, who will speak up for our priorities and support project delivery as well as creating engaging political briefings, blogs and social content, and providing advice on advocacy strategy development and delivery too. You will also be our representative at key events and meetings with high level political stakeholders and oversee project reporting. Important will be the ability to deliver a suite of creative and engaging tactics to support overall objectives in Wales.

 

Expert at leading and delivering successful political strategies and campaigns, you must have in-depth knowledge of the Senedd and the political landscape in Wales. You will be used to drafting political communications, effective at mapping and building strong networks and relationships with influential political stakeholders too. You will also be comfortable coordinating external stakeholders and internal resources to deliver results. Successful at managing projects, you will possess strong communication, influencing and coordinating skills too.

 

If you are passionate about saving our planet and able to influence high-level political decision-making in Wales, we would love to hear from you. Please visit our website via the link and complete the online registration and submit a copy of your up to date CV with cover letter highlighting why you are interested in this role as well as why this role is for you.

Closing Date: 16th December 2020

 

At WWF-UK we are committed to creating an inclusive working environment, where diversity is valued and there is equality of opportunity. We therefore welcome applications from all sections of the community and we offer a range of benefits to encourage a work life balance.

 

Our world needs you like never before. We are the first generation to know we are destroying the world and we could be the last that can do anything about it. We’re looking for people who are passionate about making it politically, socially and economically unacceptable to destroy our planet’s natural resources. We need you to join us in the fight for our world.

 

<< Back