Tim: Gwasanaeth Trwyddedu- Diwydiannau a Reoleiddir
Lleoliad: Caerdydd neu Bangor.
Rhif y Swydd: 102756
Yn Atebol i: Prif Arweinydd Tim Trwyddedu
Yn atebol i’r swydd hon yn uniongyrchol: Neb
Diben y swydd: Arwain wrth asesu'r Sefydliadau sy'n dod o fewn y Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol a'r ceisiadau am drwyddedu Sylweddau Ymbelydrol nad ydynt yn niwclear ar gyfer yr atomfa arfaethedig, Wylfa Newydd. Gweithredu fel y prif ryngwyneb ag Asiantaeth yr Amgylchedd a'r ymgeisydd i sicrhau penderfyniad effeithiol ar y drwydded niwclear weithredol ar gyfer y datblygiad. Cefnogi datblygiad Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd ar gyfer yr atomfa newydd arfaethedig drwy gynghori ar effeithiau amgylcheddol posibl sy'n gysylltiedig â'r Sefydliadau ac ag elfennau'r Rheoliadau Sylweddau Ymbelydrol ynglyn â'r datblygiad.
Meini Prawf Penodol i’r Swydd:
- Addysg i lefel gradd neu gyfwerth mewn disgyblaeth wyddonol sy'n uniongyrchol berthnasol, yn ddelfrydol Cemeg neu Ffiseg (hanfodol)
- Dull cyflenwi sydd â phwyslais cryf ar y cwsmer. (hanfodol)
- Sgiliau cynllunio a threfnu effeithiol (hanfodol)
- Sgiliau cyfathrebu effeithiol (hanfodol)
- Dealltwriaeth o'r gwahanol ffyrdd i weithredu adnoddau Rheoliadau Sylweddau Ymbelydrol a'r sectorau gwahanol lle maent yn cael eu defnyddio (hanfodol)
- Profiad ymarferol o gymhwyso'r ddeddfwriaeth amgylcheddol berthnasol i'r broses trwyddedu a/neu weithredu safleoedd niwclear a di-niwclear yn ogystal ag unedau hylosgi tanwydd ffosil. (hanfodol)
Gofynion yr iaith Gymraeg:
Mae ystyriaeth ddyledus wedi'i rhoi i ofynion y Gymraeg ar gyfer y swydd a'r sgiliau cyfredol o fewn y tîm. O ystyried hyn mae'r sgiliau Cymraeg sy'n ofynnol ar gyfer y swydd ar Lefel 1.
Gwybodaeth Hysbyseb Swydd
Math o Gytundeb: Penodiad cyfnod penodedig am 100 wythnos
Patrwm gwaith: 37 awr yr wythnos
Cyflog: £33,093
Dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau: 31 Ionawr 2017
Am ragor o wybodaeth a sut I wneud cais, ymwelwch a’n gwefan.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â:
Stephen Attwood ar 0300 065 4211 neu e-bostiwch Stephen.attwood@naturalresourceswales.gov.uk